In Wales we do things differently and this starts and ends with working together and supporting each other to allow our children to thrive.
School and college leadership in Wales is not, and has never been, a solo sport; it is a team, a whole group of exceptional leaders moving forward together and being so much stronger and influential than alone. ASCL Cymru is there to support this, to provide the platform, the introductions and the support school and college leaders in Wales need to do the job that transforms their communities.
ASCL Cymru is represented by its Director, Claire Armitstead with support for members led by our National Officer Ann Webb. We also have a Policy Officer, Cath Falcus, who ensures a real knowledge and understanding of Welsh-centric policy and provides real challenge and support in its creation.
The work of ASCL Cymru is directed by our members through our Cymru Executive and Council. The Executive and Council meets three times a year to develop ASCL Cymru's position statements, policy and guidance, and works with Welsh Government to influence its education policy.
Executive and Council are chaired by the ASCL Cymru President who is elected for a one-year term of office by the membership at the AGM.
The ASCL Cymru team are always happy to hear from our members and can be contacted through the contact information provided in our newsletter. Our newsletter is sent every Tuesday and Friday and contains all the latest advice and guidance affecting members in Wales, as well as practice shared by our members from across the country.
ASCL Cymru Constitution
***********************
Croeso i ASCL Cymru
Yng Nghymru rydym yn gwneud pethau'n wahanol ac mae hyn yn dechrau ac yn gorffen gyda chydweithio a chefnogi ein gilydd i ganiatáu i'n plant ffynnu.
Nid yw, ac ni fu arweinyddiaeth ysgolion a cholegau yng Nghymru erioed, yn gamp unigol. Mae'n ymdrech tîm gyda grŵp cyfan o arweinwyr eithriadol yn symud ymlaen gyda'i gilydd ac yn gymaint cryfach a dylanwadol nag fel unigolyn. Mae ASCL Cymru yno i gefnogi hyn, i ddarparu'r platfform, y cyflwyniadau a'r cymorth sydd ei angen ar arweinwyr ysgolion a cholegau yng Nghymru i wneud y gwaith sy'n trawsnewid eu cymunedau.
Cynrychiolir ASCL Cymru gan ei Chyfarwyddwr, Claire Armitstead gyda chefnogaeth i aelodau dan arweiniad ein Swyddog Cenedlaethol, Ann Webb. Mae gennym hefyd Swyddog Polisi, Cath Falcus, sy'n sicrhau gwybodaeth a dealltwriaeth go iawn o bolisi sy'n canolbwyntio ar Gymru ac sy'n darparu her a chefnogaeth go iawn wrth ei chreu.
Mae gwaith ASCL Cymru yn cael ei gyfarwyddo gan ein haelodau drwy ein Pwyllgor Gwaith a'n Cyngor Cymru. Mae'r Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn i ddatblygu datganiadau, polisi a chanllawiau ASCL Cymru, ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar ei pholisi addysg.
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor yw Llywydd ASCL Cymru sy'n cael ei ethol am flwyddyn yn y swydd gan yr aelodaeth yn y CCB.
Mae tîm ASCL Cymru bob amser yn hapus i glywed gan ein haelodau a gellir cysylltu â nhw drwy'r wybodaeth gyswllt a ddarperir yn ein cylchlythyr. Anfonir ein cylchlythyr bob dydd Mawrth a dydd Gwener ac mae'n cynnwys yr holl gyngor ac arweiniad diweddaraf sy'n effeithio ar aelodau yng Nghymru, yn ogystal ag ymarfer a rennir gan ein haelodau o bob cwr o'r wlad.
Newidiadau Cyfansoddiad ASCL